DATGANIAD YSGRIFENEDIG

GAN

LYWODRAETH CYMRU

 

 


TEITL

Offerynnau Statudol o dan Rhan 2 Deddf Tai (Cymru) 2014' 

DYDDIAD

10 Mawrth 2015

GAN

Lesley Griffiths – Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

 

 

Ym mis Ionawr, cyhoeddais ymgynghoriad ar yr Offerynnau Statudol sy'n gysylltiedig â Rhan 2 Deddf Tai (Cymru).  Rwy'n falch i gyoheddi adroddiad cryno o'r ymatebion i'r ymgynghoriad. 

 

Mae Rhan 2 Deddf Tai (Cymru) 2014 yn gysylltiedig yn benodol â diwygio cyfraith digartrefedd, gan gynnwys gosod dyletswydd gryfach ar Awdurdodau Lleol i rwystro digartrefedd.  Mae'r tri offeryn statudol yr ymgynghorwyd yn eu cylch yn gysylltiedig â pha mor addas yw'r llety, y broses adolygu a'r broses ar gyfer ystyried bwriad. 

 

Cafwyd 27 o ymatebion i'r ymgynghoriad  gan amrywiol randdeiliaid ac aelodau'r cyhoedd.  Rwy'n ddiolchgar i bawb a dreuliodd amser yn cyflwyno eu safbwyntiau.  Mae crynodeb o ymatebion wedi'u cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru.  

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi myfyrio ar yr holl sylwadau a dderbyniwyd mewn ymateb i'r ymgynghoriad ac mae nifer o'r ymatebion wedi cael eu hymgorffori yn y gorchmynion diwygiedig. Heddiw, rwyf wedi cyflwyno iddynt ar gyfer craffu pellach gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol.

 

http://gov.wales/consultations/housing-and-regeneration/statutory-instruments-under-part-2-of-housing-wales-act-2014/?status=closed&lang=cy